English

Croeso i Borth Cyfieithu Prifysgol Bangor

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu testun o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg. Gallwch anfon ychydig o eiriau o destun atom, neu ddogfen hir.

Os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth am y tro cyntaf, cofiwch ddarllen y cyfarwyddiadau isod. Byddai croeso i chi gysylltu â ni os ydych yn cael trafferth defnyddio’r gwasanaeth neu os oes arnoch angen esboniad pellach ar ryw bwynt.

Defnyddio’r Gwasanaeth

Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr (mewn llythrennau bach a heb gynnwys @bangor.ac.uk) a’ch cyfrinair arferol.

I greu project newydd cliciwch “Creu Project Newydd” ar waelod y sgrin ar y chwith.

Bydd ffurflen fer i’w llenwi. Rhaid llenwi pob maes, yn enwedig y ddau faes cyntaf sy’n feysydd gorfodol a nodir â *.

Bydd gofyn i chi roi enw ar eich ‘project’. Dewiswch enw go ddisgrifiadol, h.y. peidiwch â rhoi “Gwaith i’w Gyfieithu” fel enw, ond yn hytrach “E-byst i bartneriaid” er enghraifft.

Gall y project gynnwys un ffeil neu fwy nag un ffeil neu ddarn byr iawn o destun.

Cliciwch ar y maes dyddiad i ddewis ‘Dyddiad dychwelyd a ddymunir’ o’r calendr. Rhowch ddigon o amser i ni amserlennu eich gwaith. Os yw’r dyddiad yr ydych yn ei nodi yn rhy fuan, bydd yr Uned Gyfieithu yn cysylltu i roi gwybod i chi erbyn pryd y gellir gwneud y gwaith.

Rhaid nodi ai gwaith cyfieithu Cymraeg > Saesneg neu Saesneg > Cymraeg yw’r gwaith.

Yn olaf bydd rhaid i chi dicio blwch i gadarnhau nad yw’r testun i’w gyfieithu yn rhan o waith sy’n cael ei ariannu’n allanol.

Cliciwch Nesaf.

Ar y dudalen nesaf gofynnir i chi ddewis rhwng uwchlwytho ffeil/ffeiliau neu deipio neu ludo testun byr mewn blwch. Dim ond lle i 250 o nodau (tua 50 gair) sydd yn y blwch. Os yw’r gwaith yn fwy na hynny rhaid uwchlwytho ffeil.

Cliciwch wedyn ar y botwm Anfon at yr Uned Gyfieithu.

Bydd eich tudalen cofnodion personol yn dangos y gwaith rydych wedi ei anfon at yr Uned Gyfieithu mewn gwyn.

Pan fydd yr Uned Gyfieithu wedi derbyn eich gwaith ac wedi cadarnhau’r dyddiad dychwelyd bydd y cofnod yn troi’n felyn. Cofiwch ei bod yn bosib y bydd angen newid y dyddiad oherwydd prysurdeb yr uned.

Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau byddwch yn cael e-bost yn rhoi gwybod i chi, ac yn gofyn i chi fewngofnodi i’r porth cyfieithu i lawrlwytho eich gwaith. Bydd y cofnod wedi troi’n wyrdd. Cliciwch ar y cofnod i’w agor ac fe welwch ddolen at y ddogfen wreiddiol ar y chwith a dolen at y cyfieithiad ar y dde. Cliciwch ar y ddolen ar y dde i lawrlwytho’r cyfieithiad.

Ymlaen i'r system